Mannau cyhoeddus yn ‘cael eu trin fel tomen sbwriel’

Mannau cyhoeddus yn 'cael eu trin fel tomen sbwriel'

Bae CaerdyddPicture copyright
Matthew Horwood

Picture caption

Cafodd poteli, caniau a sbwriel eu gadael gan y torfeydd a welwyd ym Mae Caerdydd ddydd Iau

Mae elusen amgylcheddol yn poeni y gallai mwy o sbwriel gael effaith “ddinistriol” ar iechyd, bywyd gwyllt a thwristiaeth ar attracts Cymru.

Mae’r cyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu llacio’n raddol, gan alluogi i bobl yma fwynhau’r tywydd poeth gyda theulu neu ffrindiau tu allan.

Ond mae hynny wedi gweld rhai mannau poblogaidd yn “cael eu trin fel tomen sbwriel” yn ôl corff Cadw Cymru’n Daclus.

Dywedodd gwirfoddolwyr bod hi’n anodd ymdopi, ac mae cynghorau wedi rhybuddio bod glanhau’r mannau poblogaidd yn mynd ag adnoddau oddi wrth adrannau eraill.

Impression caption

Fe wnaeth trigolion lleol lanhau traeth Aberogwr yn dilyn y trafferthion nos Iau

Mae Cadw Cymru’n Daclus yn poeni y bydd y broblem yn gwaethygu wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach a thorfeydd yn heidio i draethau, parciau a mannau prydferth eraill.

Maen nhw’n cyfeirio at y trafferthion a welwyd yn Aberogwr, Bro Morgannwg nos Iau fel esiampl.

Ar yr un pryd fe wnaeth torfeydd o bobl gasglu ym Mae Caerdydd, gan adael poteli, caniau a sbwriel ar eu hôl.

Mae’r lluniau o’r sbwriel wedi denu beirniadaeth ar gyfryngau cymdeithasol, gan arwain at awdurdodau lleol, trigolion a’r naturiaethwr Iolo Williams i alw ar bobl i fynd â’u sbwriel adref neu gadw i ffwrdd yn llwyr.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn deall pam fod pobl eisiau treulio mwy o amser tu allan ond bod yna anogaeth i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gwastraff.

Graphic copyright
Matthew Horwood

Image caption

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod pobl sy’n gadael sbwriel yn “difetha’r ardal i bawb arall”

Cafodd lluniau eu rhannu hefyd o sbwriel wedi’i adael yn ardaloedd yn y gogledd, gan gynnwys Llanberis a’r Gogarth yn Llandudno.

Dywedodd gwirfoddolwyr yn Nhrefynwy eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r “maint enfawr” o sbwriel sy’n cael ei adael ar lannau Afon Gwy.

Fe welodd Cyngor Powys broblemau sbwriel o fewn ychydig oriau i fwyty McDonalds ailagor yn Y Drenewydd, gyda biniau’n gorlenwi’n sydyn.

Yn gynharach yn y mis dywedodd Cadw Cymru’n Daclus bod cynnydd mewn sbwriel ers i siopau tecawe ailagor.

Graphic copyright
Cyngor Sir Fynwy

Image caption

Mae “maint enfawr” o sbwriel wedi bod yn cael ei adael ar lannau Afon Gwy yn Nhrefynwy

Ond dywedodd Cadw Cymru’n Daclus nad cyfrifoldeb awdurdodau lleol yn unig ydy sbwriel.

“Mae’n rhaid i ni ddod at ein gilydd er mwyn sicrhau bod mannau yn lanach ac yn fwy diogel,” meddai’r prif weithredwr Lesley Jones.

“Dyw hello ddim yn ddigon da disgwyl i rywun arall lanhau’r gwastraff rydych chi’n ei adael.

“Ewch â’ch sbwriel gartref. Mae’n syml ond yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

About the author: Muhammad Wayne

"Travel enthusiast. Alcohol lover. Friendly entrepreneur. Coffeeaholic. Award-winning writer."

Related Posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *